Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 2:11-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. A Hiram brenin Tyrus a atebodd mewn ysgrifen, ac a'i hanfonodd at Solomon, O gariad yr Arglwydd ar ei bobl, y rhoddes efe dydi yn frenin arnynt hwy.

12. Dywedodd Hiram hefyd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a wnaeth nef a daear, yr hwn a roddes i'r brenin Dafydd fab doeth, gwybodus o synnwyr a deall, i adeiladu tŷ i'r Arglwydd, a brenhindy iddo ei hun.

13. Ac yn awr mi a anfonais ŵr celfydd, cywraint, a deallus, o'r eiddo fy nhad Hiram:

14. Mab gwraig o ferched Dan, a'i dad yn ŵr o Tyrus, yn medru gweithio mewn aur, ac mewn arian, mewn pres, mewn haearn, mewn cerrig, ac mewn coed, mewn porffor, ac mewn glas, ac mewn lliain main, ac mewn ysgarlad; ac i gerfio pob cerfiad, ac i ddychmygu pob dychymyg a roddir ato ef, gyda'th rai cywraint di, a rhai cywraint fy arglwydd Dafydd dy dad.

15. Ac yn awr, y gwenith, a'r haidd, yr olew, a'r gwin, y rhai a ddywedodd fy arglwydd, anfoned hwynt i'w weision:

16. A ni a gymynwn goed o Libanus, yn ôl dy holl raid, ac a'u dygwn hwynt i ti yn gludeiriau ar hyd y môr i Jopa: dwg dithau hwynt i fyny i Jerwsalem.

17. A Solomon a rifodd yr holl wŷr dieithr oedd yn nhir Israel, wedi y rhifiad â'r hon y rhifasai Dafydd ei dad ef hwynt: a chaed tair ar ddeg a saith ugain o filoedd a chwe chant.

18. Ac efe a wnaeth ohonynt hwy ddeng mil a thrigain yn gludwyr, a phedwar ugain mil yn naddwyr yn y mynydd, a thair mil a chwe chant yn oruchwylwyr i roi y bobl ar waith.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 2