Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 18:8-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. A brenin Israel a alwodd ar un o'i ystafellyddion, ac a ddywedodd, Prysura Michea mab Imla.

9. A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair, wedi eu gwisgo mewn brenhinol wisgoedd, eistedd yr oeddynt mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria; a'r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt.

10. A Sedeceia mab Cenaana a wnaethai iddo ei hun gyrn heyrn, ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, A'r rhai hyn y corni di y Syriaid, nes i ti eu difa hwynt.

11. A'r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn, gan ddywedyd, Dos i fyny i Ramoth-Gilead, a ffynna: canys yr Arglwydd a'i dyry hi yn llaw y brenin.

12. A'r gennad a aethai i alw Michea, a lefarodd wrtho ef, gan ddywedyd, Wele eiriau y proffwydi yn unair yn dda i'r brenin: bydded gan hynny, atolwg, dy air dithau fel un o'r rhai hynny, a dywed y gorau.

13. A Michea a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hyn a ddywedo fy Nuw, hynny a lefaraf fi.

14. A phan ddaeth efe at y brenin, y brenin a ddywedodd wrtho, Michea, a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth-Gilead, neu a beidiaf fi? Dywedodd yntau, Ewch i fyny, a ffynnwch, a rhoddir hwynt yn eich llaw chwi.

15. A'r brenin a ddywedodd wrtho, Pa sawl gwaith y'th dynghedaf di, na lefarech wrthyf fi ond gwirionedd yn enw, yr Arglwydd?

16. Yna efe a ddywedodd, Gwelais holl Israel yn wasgaredig ar y mynyddoedd, fel defaid ni byddai iddynt fugail. A dywedodd yr Arglwydd, Nid oes feistr arnynt hwy; dychweled pob un i'w dŷ ei hun mewn tangnefedd.

17. (A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Oni ddywedais i wrthyt, na phroffwydai efe ddaioni i mi, ond drygioni?)

18. Yntau a ddywedodd, Gan hynny gwrando air yr Arglwydd: Gwelais yr Arglwydd yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lu'r nefoedd yn sefyll ar ei ddeheulaw, ac ar ei law aswy.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 18