4. Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw â gair yr Arglwydd.
5. Am hynny brenin Israel a gasglodd o'r proffwydi bedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A awn ni yn erbyn Ramoth-Gilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, Dos i fyny; canys Duw a'i dyry yn llaw y brenin.
6. Ond Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma un proffwyd i'r Arglwydd eto mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef?
7. A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori â'r Arglwydd: ond y mae yn gas gennyf fi ef: canys nid yw yn proffwydo i mi ddaioni, ond drygioni erioed: efe yw Michea mab Imla. A dywedodd Jehosaffat, Na ddyweded y brenin felly.
8. A brenin Israel a alwodd ar un o'i ystafellyddion, ac a ddywedodd, Prysura Michea mab Imla.
9. A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair, wedi eu gwisgo mewn brenhinol wisgoedd, eistedd yr oeddynt mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria; a'r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt.
10. A Sedeceia mab Cenaana a wnaethai iddo ei hun gyrn heyrn, ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, A'r rhai hyn y corni di y Syriaid, nes i ti eu difa hwynt.