Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 18:19-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. A dywedodd yr Arglwydd, Pwy a dwylla Ahab brenin Israel, fel yr elo efe i fyny, ac y syrthio yn Ramoth-Gilead? Ac un a lefarodd gan ddywedyd fel hyn, ac arall gan ddywedyd fel hyn.

20. Yna ysbryd a aeth allan, ac a safodd gerbron yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Myfi a'i twyllaf ef. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Pa fodd?

21. Dywedodd yntau, Myfi a af allan, ac a fyddaf yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei holl broffwydi ef. A dywedodd yr Arglwydd, Twylli, a gorchfygi: dos allan, a gwna felly.

22. Ac yn awr wele, yr Arglwydd a roddodd ysbryd celwyddog yng ngenau dy broffwydi hyn; a'r Arglwydd a lefarodd ddrwg amdanat ti.

23. Yna Sedeceia mab Cenaana a nesaodd, ac a drawodd Michea dan ei gern, ac a ddywedodd, Pa ffordd yr aeth ysbryd yr Arglwydd oddi wrthyf fi i ymddiddan â thydi?

24. A Michea a ddywedodd, Wele, ti a gei weled y dwthwn hwnnw, pan elych di o ystafell i ystafell i ymguddio.

25. A brenin Israel a ddywedodd, Cymerwch Michea, a dygwch ef yn ei ôl at Amon tywysog y ddinas, ac at Joas mab y brenin;

26. A dywedwch, Fel hyn y dywedodd y brenin, Rhowch hwn yn y carchardy, a bwydwch ef â bara cystudd, ac â dwfr blinder, nes i mi ddyfod eilwaith mewn heddwch.

27. Yna y dywedodd Michea, Os gan ddychwelyd y dychweli di mewn heddwch, ni lefarodd yr Arglwydd ynof fi. Efe a ddywedodd hefyd, Gwrandewch hyn, yr holl bobl.

28. Felly brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda a aethant i fyny i Ramoth-Gilead.

29. A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Mi a newidiaf fy nillad, ac a af i'r rhyfel; ond gwisg di dy ddillad. Felly brenin Israel a newidiodd ei ddillad, a hwy a aethant i'r rhyfel.

30. A brenin Syria a orchmynasai i dywysogion y cerbydau y rhai oedd ganddo ef, gan ddywedyd, Nac ymleddwch â bychan nac â mawr, ond â brenin Israel yn unig.

31. A phan welodd tywysogion y cerbydau Jehosaffat, hwy a ddywedasant, Brenin Israel yw efe. A hwy a droesant i ymladd yn ei erbyn ef: ond Jehosaffat a waeddodd, a'r Arglwydd a'i cynorthwyodd ef, a Duw a'u gyrrodd hwynt oddi wrtho ef.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 18