Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 18:1-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac i Jehosaffat yr ydoedd golud ac anrhydedd yn helaeth; ac efe a ymgyfathrachodd ag Ahab.

2. Ac ymhen ennyd o flynyddoedd efe a aeth i waered at Ahab i Samaria. Ac Ahab a laddodd ddefaid a gwartheg lawer, iddo ef ac i'r bobl oedd gydag ef, ac a'i hanogodd ef i fyned i fyny gydag ef i Ramoth-Gilead.

3. Ac Ahab brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat brenin Jwda, A ei di gyda mi i Ramoth-Gilead? Yntau a ddywedodd wrtho, Yr ydwyf fi fel tithau, a'm pobl i fel dy bobl dithau, a byddwn gyda thi yn y rhyfel.

4. Jehosaffat hefyd a ddywedodd wrth frenin Israel, Ymgynghora, atolwg, heddiw â gair yr Arglwydd.

5. Am hynny brenin Israel a gasglodd o'r proffwydi bedwar cant o wŷr, ac a ddywedodd wrthynt, A awn ni yn erbyn Ramoth-Gilead i ryfel, neu a beidiaf fi? Dywedasant hwythau, Dos i fyny; canys Duw a'i dyry yn llaw y brenin.

6. Ond Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma un proffwyd i'r Arglwydd eto mwyach, fel yr ymgynghorem ag ef?

7. A brenin Israel a ddywedodd wrth Jehosaffat, Y mae eto un gŵr trwy yr hwn y gallem ymgynghori â'r Arglwydd: ond y mae yn gas gennyf fi ef: canys nid yw yn proffwydo i mi ddaioni, ond drygioni erioed: efe yw Michea mab Imla. A dywedodd Jehosaffat, Na ddyweded y brenin felly.

8. A brenin Israel a alwodd ar un o'i ystafellyddion, ac a ddywedodd, Prysura Michea mab Imla.

9. A brenin Israel a Jehosaffat brenin Jwda oeddynt yn eistedd bob un ar ei deyrngadair, wedi eu gwisgo mewn brenhinol wisgoedd, eistedd yr oeddynt mewn llannerch wrth ddrws porth Samaria; a'r holl broffwydi oedd yn proffwydo ger eu bron hwynt.

10. A Sedeceia mab Cenaana a wnaethai iddo ei hun gyrn heyrn, ac efe a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, A'r rhai hyn y corni di y Syriaid, nes i ti eu difa hwynt.

11. A'r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn, gan ddywedyd, Dos i fyny i Ramoth-Gilead, a ffynna: canys yr Arglwydd a'i dyry hi yn llaw y brenin.

12. A'r gennad a aethai i alw Michea, a lefarodd wrtho ef, gan ddywedyd, Wele eiriau y proffwydi yn unair yn dda i'r brenin: bydded gan hynny, atolwg, dy air dithau fel un o'r rhai hynny, a dywed y gorau.

13. A Michea a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, yr hyn a ddywedo fy Nuw, hynny a lefaraf fi.

14. A phan ddaeth efe at y brenin, y brenin a ddywedodd wrtho, Michea, a awn ni i ryfel yn erbyn Ramoth-Gilead, neu a beidiaf fi? Dywedodd yntau, Ewch i fyny, a ffynnwch, a rhoddir hwynt yn eich llaw chwi.

15. A'r brenin a ddywedodd wrtho, Pa sawl gwaith y'th dynghedaf di, na lefarech wrthyf fi ond gwirionedd yn enw, yr Arglwydd?

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 18