12. Felly Jehosaffat oedd yn myned rhagddo, ac yn cynyddu yn uchel; ac efe a adeiladodd yn Jwda balasau, a dinasoedd trysorau.
13. A llawer o waith oedd ganddo ef yn ninasoedd Jwda; a rhyfelwyr cedyrn nerthol yn Jerwsalem.
14. A dyma eu rhifedi hwynt, yn ôl tŷ eu tadau: O Jwda yn dywysogion miloedd, yr oedd Adna y pennaf, a chydag ef dri chan mil o wŷr cedyrn nerthol.
15. A cher ei law ef, Jehohanan y tywysog, a chydag ef ddau cant a phedwar ugain mil.
16. A cherllaw iddo ef, Amaseia mab Sichri, yr hwn o'i wirfodd a ymroddodd i'r Arglwydd; a chydag ef ddau can mil o wŷr cedyrn nerthol.
17. Ac o Benjamin, yr oedd Eliada yn ŵr cadarn nerthol, a chydag ef ddau can mil yn arfogion â bwâu a tharianau.
18. A cherllaw iddo ef, Jehosabad, a chydag ef gant a phedwar ugain mil yn barod i ryfel.
19. Y rhai hyn oedd yn gwasanaethu y brenin, heblaw y rhai a roddasai y brenin yn y dinasoedd caerog, trwy holl Jwda.