Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 13:9-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Oni yrasoch ymaith offeiriaid yr Arglwydd, meibion Aaron, a'r Lefiaid? ac oni wnaethoch i chwi offeiriaid fel pobl y gwledydd eraill? pwy bynnag sydd yn dyfod i'w gysegru â bustach ieuanc ac â saith o hyrddod, hwnnw sydd yn offeiriad i'r rhai nid ydynt dduwiau.

10. Ninnau, yr Arglwydd yw ein Duw ni, ac nis gwrthodasom ef; a'r offeiriaid y rhai sydd yn gwasanaethu yr Arglwydd yw meibion Aaron, a'r Lefiaid sydd yn eu gorchwyl.

11. Ac y maent hwy yn llosgi i'r Arglwydd boethoffrymau bob bore a phob hwyr, ac arogl-darth peraidd; ac yn cadw trefn y bara gosod ar y bwrdd pur, a'r canhwyllbren aur a'i lampau, i losgi bob prynhawn: canys yr ydym ni yn cadw goruchwyliaeth yr Arglwydd ein Duw; ond chwi a'i gwrthodasoch ef.

12. Ac wele, Duw sydd ben gyda ni, a'i offeiriaid ef ag utgyrn soniarus i utganu yn eich erbyn chwi. O feibion Israel, nac ymleddwch yn erbyn Arglwydd Dduw eich tadau; canys ni lwyddwch chwi.

13. Ond Jeroboam a barodd osod cynllwyn o amgylch, a dyfod o'u hôl hwynt: felly yr oeddynt hwy o flaen Jwda, a'r cynllwyn o'r tu ôl iddynt.

14. A Jwda a edrychodd yn ôl, ac wele ryfel iddynt ymlaen ac yn ôl; a hwy a waeddasant ar yr Arglwydd, a'r offeiriaid a leisiasant mewn utgyrn.

15. A gwŷr Jwda a floeddiasant: a phan waeddodd gwŷr Jwda, Duw a drawodd Jeroboam, a holl Israel, a flaen Abeia a Jwda.

16. A meibion Israel a ffoesant o flaen Jwda: a Duw a'u rhoddodd hwynt i'w llaw hwynt.

17. Ac Abeia a'i bobl a'u trawsant hwy â lladdfa fawr: a syrthiodd yn archolledig o Israel bum can mil o wŷr etholedig.

18. Felly y darostyngwyd meibion Israel y pryd hwnnw; a meibion Jwda a orfuant, oherwydd iddynt bwyso ar Arglwydd Dduw eu tadau.

19. Ac Abeia a erlidiodd ar ôl Jeroboam, ac a ddug oddi arno ef ddinasoedd, Bethel a'i phentrefi, a Jesana a'i phentrefi, ac Effraim a'i phentrefi.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 13