Hen Destament

Testament Newydd

2 Cronicl 12:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac wedi i Rehoboam sicrhau y frenhiniaeth, a'i chadarnhau, efe a wrthododd gyfraith yr Arglwydd, a holl Israel gydag ef.

2. Ac yn y bumed flwyddyn i'r brenin Rehoboam, y daeth Sisac brenin yr Aifft i fyny yn erbyn Jerwsalem, oherwydd iddynt wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd,

3. A mil a dau cant o gerbydau, a thrigeinmil o wŷr meirch; ac nid oedd nifer ar y bobl a ddaeth gydag ef o'r Aifft, sef y Lubiaid, y Succiaid, a'r Ethiopiaid.

4. Ac efe a enillodd y dinasoedd cedyrn, y rhai oedd yn Jwda, ac a ddaeth hyd Jerwsalem.

5. Yna Semaia y proffwyd a ddaeth at Rehoboam a thywysogion Jwda, y rhai oedd wedi ymgasglu yn Jerwsalem rhag ofn Sisac, ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Chwi a'm gwrthodasoch i, am hynny myfi a'ch gadewais chwi yn llaw Sisac.

6. Yna tywysogion Israel a'r brenin a ymostyngasant ac a ddywedasant, Cyfiawn yw yr Arglwydd.

7. A phan welodd yr Arglwydd iddynt hwy ymostwng, daeth gair yr Arglwydd at Semaia, gan ddywedyd, Hwy a ymostyngasant; am hynny ni ddifethaf hwynt, ond rhoddaf iddynt ymwared ar fyrder; ac ni thywelltir fy llid yn erbyn Jerwsalem trwy law Sisac.

8. Eto byddant yn weision iddo ef, fel yr adnabyddont fy ngwasanaeth i, a gwasanaeth teyrnasoedd y gwledydd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Cronicl 12