1. A Rehoboam a aeth i Sichem; canys i Sichem y daethai holl Israel i'w urddo ef yn frenin.
2. A phan glybu Jeroboam mab Nebat, ac yntau yn yr Aifft, lle y ffoesai efe o ŵydd Solomon y brenin, Jeroboam a ddychwelodd o'r Aifft.
3. Canys hwy a anfonasent, ac a alwasent amdano ef. A Jeroboam a holl Israel a ddaethant, ac a ymddiddanasant â Rehoboam, gan ddywedyd,
4. Dy dad a wnaeth ein hiau ni yn drom; yn awr gan hynny ysgafnha beth o gaethiwed caled dy dad, ac o'i iau drom ef yr hon a roddodd efe arnom ni, a ni a'th wasanaethwn di.
5. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ymhen y tridiau dychwelwch ataf fi. A'r bobl a aethant ymaith.
6. A'r brenin Rehoboam a ymgynghorodd â'r henuriaid a fuasai yn sefyll o flaen Solomon ei dad ef pan ydoedd efe yn fyw, gan ddywedyd, Pa fodd yr ydych chwi yn cynghori ateb y bobl hyn?
7. A hwy a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, Os byddi yn dda i'r bobl yma, a'u bodloni hwynt, ac os dywedi wrthynt eiriau teg, hwy a fyddant yn weision i ti byth.
8. Ond efe a wrthododd gyngor yr henuriaid a gyngorasent hwy iddo; ac efe a ymgynghorodd â'r gwŷr ieuainc a gynyddasent gydag ef, a'r rhai oedd yn sefyll ger ei fron ef.
9. Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Beth yr ydych chwi yn ei gynghori, fel yr atebom y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyf, gan ddywedyd, Ysgafnha beth ar yr iau a osododd dy dad arnom ni?
10. A'r gwŷr ieuainc y rhai a gynyddasent gydag ef a lefarasant wrtho, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth y bobl a lefarasant wrthyt, gan ddywedyd, Dy dad a wnaeth ein hiau ni yn drom, ysgafnha dithau hi oddi arnom ni: fel hyn y dywedi wrthynt; Fy mys bach fydd ffyrfach na llwynau fy nhad.
11. Ac yn awr fy nhad a'ch llwythodd chwi â iau drom, minnau hefyd a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a'ch ceryddodd chwi â ffrewyllau, a minnau a'ch ceryddaf ag ysgorpionau.
12. Yna y daeth Jeroboam, a'r holl bobl, at Rehoboam y trydydd dydd, fel y llefarasai y brenin, gan ddywedyd, Dychwelwch ataf fi y trydydd dydd.
13. A'r brenin a'u hatebodd hwynt yn arw: a'r brenin Rehoboam a wrthododd gyngor yr henuriaid;