1. A SOLOMON mab Dafydd a ymgadarnhaodd yn ei deyrnas, a'r Arglwydd ei Dduw oedd gydag ef, ac a'i mawrhaodd ef yn ddirfawr.
2. A Solomon a ddywedodd wrth holl Israel, wrth dywysogion y miloedd a'r cannoedd, ac wrth y barnwyr, ac wrth bob llywodraethwr yn holl Israel, sef y pennau-cenedl.
3. Felly Solomon a'r holl dyrfa gydag ef a aethant i'r uchelfa oedd yn Gibeon: canys yno yr oedd pabell cyfarfod Duw, yr hon a wnaethai Moses gwas yr Arglwydd yn yr anialwch.
4. Eithr arch Duw a ddygasai Dafydd i fyny o Ciriath-jearim, i'r lle a ddarparasai Dafydd iddi: canys efe a osodasai iddi hi babell yn Jerwsalem.
5. Hefyd, yr allor bres a wnaethai Besaleel mab Uri, mab Hur, oedd yno o flaen pabell yr Arglwydd: a Solomon a'r dyrfa a'i hargeisiodd hi.
6. A Solomon a aeth i fyny yno at yr allor bres, gerbron yr Arglwydd, yr hon oedd ym mhabell y cyfarfod, a mil o boethoffrymau a offrymodd efe arni hi.
7. Y noson honno yr ymddangosodd Duw i Solomon, ac y dywedodd wrtho ef, Gofyn yr hyn a roddaf i ti.
8. A dywedodd Solomon wrth Dduw, Ti a wnaethost fawr drugaredd â'm tad Dafydd, ac a wnaethost i mi deyrnasu yn ei le ef.
9. Yn awr, O Arglwydd Dduw, sicrhaer dy air wrth fy nhad Dafydd; canys gwnaethost i mi deyrnasu ar bobl mor lluosog â llwch y ddaear.
10. Yn awr dyro i mi ddoethineb a gwybodaeth, fel yr elwyf allan, ac y delwyf i mewn o flaen y bobl hyn: canys pwy a ddichon farnu dy bobl luosog hyn?