Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 8:21-29 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. A Joram a aeth trosodd i Sair, a'r holl gerbydau gydag ef; ac efe a gyfododd liw nos, ac a drawodd yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau: a'r bobl a ffodd i'w pebyll.

22. Er hynny Edom a wrthryfelodd oddi tan law Jwda hyd y dydd hwn. Yna y gwrthryfelodd Libna y pryd hwnnw.

23. A'r rhan arall o hanes Joram, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

24. A Joram a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd gyda'i dadau yn ninas Dafydd; ac Ahaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

25. Yn y ddeuddegfed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel yr aeth Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda yn frenin.

26. Mab dwy flwydd ar hugain oedd Ahaseia pan aeth efe yn frenin; ac un flwyddyn y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Athaleia, merch Omri brenin Israel.

27. Ac efe a rodiodd yn ffordd tŷ Ahab, ac a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, fel tŷ Ahab: canys daw tŷ Ahab ydoedd efe.

28. Ac efe a aeth gyda Joram mab Ahab i ryfel yn erbyn Hasael brenin Syria i Ramoth‐Gilead; a'r Syriaid a drawsant Joram.

29. A Joram y brenin a ddychwelodd i Jesreel i ymiacháu o'r briwiau a roesai y Syriaid iddo ef yn Rama, wrth ymladd ohono ef yn erbyn Hasael brenin Syria: ac Ahaseia mab Jehoram brenin Jwda a aeth i waered i ymweled â Joram mab Ahab yn Jesreel; canys claf ydoedd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 8