Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 8:12-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

12. A Hasael a ddywedodd, Paham y mae fy arglwydd yn wylo? Dywedodd yntau, Am fy mod yn gwybod y drwg a wnei di i feibion Israel: eu hamddiffynfaoedd hwynt a losgi di â thân, a'u gwŷr ieuainc a leddi â'r cleddyf, a'u plant a bwyi, a'u gwragedd beichiogion a rwygi.

13. A Hasael a ddywedodd, Pa beth! ai ci yw dy was, fel y gwnelai efe y mawr beth hyn? Ac Eliseus a ddywedodd, Yr Arglwydd a ddangosodd i mi y byddi di yn frenin ar Syria.

14. Felly efe a aeth ymaith oddi wrth Eliseus, ac a ddaeth at ei arglwydd; yr hwn a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd Eliseus wrthyt ti? Ac efe a atebodd, Efe a ddywedodd wrthyf, y byddit ti byw yn ddiau.

15. A thrannoeth efe a gymerth wrthban, ac a'i gwlychodd mewn dwfr, ac a'i lledodd ar ei wyneb ef, fel y bu efe farw: a Hasael a deyrnasodd yn ei le ef.

16. Ac yn y bumed flwyddyn i Joram mab Ahab brenin Israel, a Jehosaffat yn frenin yn Jwda, y dechreuodd Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda deyrnasu.

17. Mab deuddeng mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu; ac wyth mlynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem.

18. Ac efe a rodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, fel y gwnâi tŷ Ahab: canys merch Ahab oedd yn wraig iddo: felly efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.

19. Ond ni fynnai yr Arglwydd ddifetha Jwda, er mwyn Dafydd ei was; megis yr addawsai efe, y rhoddai iddo oleuni, ac i'w feibion yn dragywydd.

20. Yn ei ddyddiau ef y gwrthryfelodd Edom oddi tan law Jwda, ac y gosodasant frenin arnynt eu hunain.

21. A Joram a aeth trosodd i Sair, a'r holl gerbydau gydag ef; ac efe a gyfododd liw nos, ac a drawodd yr Edomiaid oedd yn ei amgylchu ef, a thywysogion y cerbydau: a'r bobl a ffodd i'w pebyll.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 8