6. A gŵr Duw a ddywedodd, Pa le y syrthiodd? Yntau a ddangosodd iddo y fan. Ac efe a dorrodd bren, ac a'i taflodd yno; a'r haearn a nofiodd.
7. Ac efe a ddywedodd, Cymer i fyny i ti. Ac efe a estynnodd ei law, ac a'i cymerodd.
8. A brenin Syria oedd yn rhyfela yn erbyn Israel; ac efe a ymgynghorodd â'i weision, gan ddywedyd, Yn y lle a'r lle y bydd fy ngwersyllfa.
9. A gŵr Duw a anfonodd at frenin Israel, gan ddywedyd, Ymgadw rhag myned i'r lle a'r lle: canys yno y disgynnodd y Syriaid.
10. A brenin Israel a anfonodd i'r lle am yr hwn y dywedasai gŵr Duw wrtho, ac y rhybuddiasai ef, ac a ymgadwodd yno, nid unwaith, ac nid dwywaith.
11. A chalon brenin Syria a gythryblwyd herwydd y peth hyn; ac efe a alwodd ar ei weision, ac a ddywedodd wrthynt, Oni fynegwch i mi pwy ohonom ni sydd gyda brenin Israel?
12. Ac un o'i weision ef a ddywedodd, Nid oes neb, fy arglwydd frenin: ond Eliseus y proffwyd, yr hwn sydd yn Israel, a fynega i frenin Israel y geiriau a leferi di yng nghanol dy ystafell wely.
13. Ac efe a ddywedodd, Ewch, ac edrychwch pa le y mae efe, fel yr anfonwyf i'w gyrchu ef. A mynegwyd iddo, gan ddywedyd, Wele, yn Dothan y mae efe.
14. Am hynny efe a anfonodd yno feirch a cherbydau, a llu mawr: a hwy a ddaethant liw nos, ac a amgylchynasant y ddinas.
15. A phan gododd gweinidog gŵr Duw yn fore, a myned allan, wele lu yn amgylchynu y ddinas, â meirch ac â cherbydau. A'i was a ddywedodd wrtho ef, Aha, fy meistr! pa fodd y gwnawn?
16. Ac efe a ddywedodd, Nac ofna: canys amlach yw y rhai sydd gyda ni na'r rhai sydd gyda hwynt.
17. Ac Eliseus a weddïodd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, agor, atolwg, ei lygaid ef, fel y gwelo. A'r Arglwydd a agorodd lygaid y llanc; ac efe a edrychodd: ac wele y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o amgylch Eliseus.
18. A phan ddaethant i waered ato ef, Eliseus a weddïodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Taro, atolwg, y genedl hon â dallineb. Ac efe a'u trawodd hwy â dallineb, yn ôl gair Eliseus.