Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 6:13-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Ac efe a ddywedodd, Ewch, ac edrychwch pa le y mae efe, fel yr anfonwyf i'w gyrchu ef. A mynegwyd iddo, gan ddywedyd, Wele, yn Dothan y mae efe.

14. Am hynny efe a anfonodd yno feirch a cherbydau, a llu mawr: a hwy a ddaethant liw nos, ac a amgylchynasant y ddinas.

15. A phan gododd gweinidog gŵr Duw yn fore, a myned allan, wele lu yn amgylchynu y ddinas, â meirch ac â cherbydau. A'i was a ddywedodd wrtho ef, Aha, fy meistr! pa fodd y gwnawn?

16. Ac efe a ddywedodd, Nac ofna: canys amlach yw y rhai sydd gyda ni na'r rhai sydd gyda hwynt.

17. Ac Eliseus a weddïodd, ac a ddywedodd, O Arglwydd, agor, atolwg, ei lygaid ef, fel y gwelo. A'r Arglwydd a agorodd lygaid y llanc; ac efe a edrychodd: ac wele y mynydd yn llawn meirch a cherbydau tanllyd o amgylch Eliseus.

18. A phan ddaethant i waered ato ef, Eliseus a weddïodd ar yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Taro, atolwg, y genedl hon â dallineb. Ac efe a'u trawodd hwy â dallineb, yn ôl gair Eliseus.

19. Ac Eliseus a ddywedodd wrthynt, Nid hon yw y ffordd, ac nid hon yw y ddinas: deuwch ar fy ôl i, a mi a'ch dygaf chwi at y gŵr yr ydych chwi yn ei geisio. Ond efe a'u harweiniodd hwynt i Samaria.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 6