8. A phan glybu Eliseus gŵr Duw rwygo o frenin Israel ei ddillad, efe a anfonodd at y brenin, gan ddywedyd, Paham y rhwygaist dy ddillad? deued yn awr ataf fi, ac efe a gaiff wybod fod proffwyd yn Israel.
9. Yna Naaman a ddaeth â'i feirch ac â'i gerbydau, ac a safodd wrth ddrws tŷ Eliseus.
10. Ac Eliseus a anfonodd ato ef gennad, gan ddywedyd, Dos ac ymolch saith waith yn yr Iorddonen; a'th gnawd a ddychwel i ti, a thithau a lanheir.
11. Ond Naaman a ddigiodd, ac a aeth ymaith; ac a ddywedodd, Wele, mi a feddyliais ynof fy hun, gan ddyfod y deuai efe allan, ac y safai efe, ac y galwai ar enw yr Arglwydd ei Dduw, ac y gosodai ei law ar y fan, ac yr iachâi y gwahanglwyfus.
12. Onid gwell Abana a Pharpar, afonydd Damascus, na holl ddyfroedd Israel? oni allaf ymolchi ynddynt hwy, ac ymlanhau? Felly efe a drodd, ac a aeth ymaith mewn dicter.
13. A'i weision a nesasant, ac a lefarasant wrtho, ac a ddywedasant, Fy nhad, pe dywedasai y proffwyd beth mawr wrthyt ti, onis gwnelsit? pa faint mwy, gan iddo ddywedyd wrthyt, Ymolch, a bydd lân?
14. Ac yna efe a aeth i waered, ac a ymdrochodd saith waith yn yr Iorddonen, yn ôl gair gŵr Duw: a'i gnawd a ddychwelodd fel cnawd dyn bach, ac efe a lanhawyd.