2 Brenhinoedd 5:23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)
A Naaman a ddywedodd, Bydd fodlon, cymer ddwy dalent. Ac efe a fu daer arno ef; ac a rwymodd ddwy dalent arian mewn dwy god, a deubar o ddillad; ac efe a'u rhoddodd ar ddau o'i weision, i'w dwyn o'i flaen ef.