Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 4:32-44 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. A phan ddaeth Eliseus i mewn i'r tŷ, wele y bachgen wedi marw, yn gorwedd ar ei wely ef.

33. Felly efe a ddaeth i mewn, ac a gaeodd y drws arnynt ill dau, ac a weddïodd ar yr Arglwydd.

34. Ac efe a aeth i fyny, ac a orweddodd ar y bachgen, ac a osododd ei enau ar ei enau yntau, a'i lygaid ar ei lygaid ef, a'i ddwylo ar ei ddwylo ef, ac efe a ymestynnodd arno ef; a chynhesodd cnawd y bachgen.

35. Ac efe a ddychwelodd, ac a rodiodd yn y tŷ i fyny ac i waered; ac a aeth i fyny, ac a ymestynnodd arno ef: a'r bachgen a disiodd hyd yn seithwaith, a'r bachgen a agorodd ei lygaid.

36. Ac efe a alwodd ar Gehasi, ac a ddywedodd, Galw y Sunamees hon. Ac efe a alwodd arni hi. A hi a ddaeth ato ef. Dywedodd yntau, Cymer dy fab.

37. A hi a aeth i mewn, ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ymgrymodd hyd lawr, ac a gymerodd ei mab, ac a aeth allan.

38. Ac Eliseus a ddychwelodd i Gilgal. Ac yr oedd newyn yn y wlad; a meibion y proffwydi oedd yn eistedd ger ei fron ef: ac efe a ddywedodd wrth ei was, Trefna'r crochan mawr, a berw gawl i feibion y proffwydi.

39. Ac un a aeth allan i'r maes i gasglu bresych, ac a gafodd winwydden wyllt, ac a gasglodd ohoni fresych gwylltion lonaid ei wisg, ac a ddaeth ac a'u briwodd yn y crochan cawl: canys nid adwaenent hwynt.

40. Yna y tywalltasant i'r gwŷr i fwyta. A phan fwytasant o'r cawl, hwy a waeddasant, ac a ddywedasant, O ŵr Duw, y mae angau yn y crochan: ac ni allent ei fwyta.

41. Ond efe a ddywedodd, Dygwch flawd. Ac efe a'i bwriodd yn y crochan: dywedodd hefyd, Tywallt i'r bobl, fel y bwytaont. Ac nid oedd dim niwed yn y crochan.

42. A daeth gŵr o Baal‐salisa, ac a ddug i ŵr Duw o fara blaenffrwyth, ugain torth haidd, a thywysennau o ŷd newydd yn ei gibau. Ac efe a ddywedodd, Dod i'r bobl, fel y bwytaont.

43. A'i weinidog ef a ddywedodd, I ba beth y rhoddaf hyn gerbron cannwr? Dywedodd yntau, Dyro i'r bobl, fel y bwytaont: canys fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Hwy a fwytânt, a bydd gweddill.

44. Felly efe a'i rhoddodd ger eu bron hwynt: a hwy a fwytasant, ac a weddillasant, yn ôl gair yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 4