25. Felly hi a aeth, ac a ddaeth at ŵr Duw i fynydd Carmel. A phan welodd gŵr Duw hi o bell, efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was, Wele y Sunamees honno.
26. Rhed yn awr, atolwg, i'w chyfarfod, a dywed wrthi hi, A wyt ti yn iach? a ydyw dy ŵr yn iach? a ydyw y bachgen yn iach? Dywedodd hithau, Iach.
27. A phan ddaeth hi at ŵr Duw i'r mynydd, hi a ymaflodd yn ei draed ef: a Gehasi a nesaodd i'w gwthio hi ymaith. A gŵr Duw a ddywedodd, Gad hi yn llonydd: canys ei henaid sydd ofidus ynddi; a'r Arglwydd a'i celodd oddi wrthyf fi, ac nis mynegodd i mi.
28. Yna hi a ddywedodd, A ddymunais i fab gan fy arglwydd? oni ddywedais, Na thwylla fi?
29. Yna efe a ddywedodd wrth Gehasi, Gwregysa dy lwynau, a chymer fy ffon yn dy law, a dos ymaith: o chyfarfyddi â neb, na chyfarch iddo; ac o chyfarch neb di, nac ateb ef: a gosod fy ffon i ar wyneb y bachgen.
30. A mam y bachgen a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw dy enaid di, nid ymadawaf fi â thi. Ac efe a gyfododd, ac a aeth ar ei hôl hi.