Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 4:21-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. A hi a aeth i fyny, ac a'i gosododd ef i orwedd ar wely gŵr Duw, ac a gaeodd y drws arno, ac a aeth allan.

22. A hi a alwodd ar ei gŵr, ac a ddywedodd, Anfon, atolwg, gyda mi un o'r llanciau, ac un o'r asynnod: canys mi a redaf hyd at ŵr Duw, ac a ddychwelaf.

23. Dywedodd yntau, Paham yr ei di ato ef heddiw? nid yw hi na newyddloer, na Saboth. Hithau a ddywedodd, Pob peth yn dda.

24. Yna hi a gyfrwyodd yr asyn; ac a ddywedodd wrth ei llanc, Gyr, a dos rhagot: nac aros amdanaf fi i farchogaeth, onid archwyf i ti.

25. Felly hi a aeth, ac a ddaeth at ŵr Duw i fynydd Carmel. A phan welodd gŵr Duw hi o bell, efe a ddywedodd wrth Gehasi ei was, Wele y Sunamees honno.

26. Rhed yn awr, atolwg, i'w chyfarfod, a dywed wrthi hi, A wyt ti yn iach? a ydyw dy ŵr yn iach? a ydyw y bachgen yn iach? Dywedodd hithau, Iach.

27. A phan ddaeth hi at ŵr Duw i'r mynydd, hi a ymaflodd yn ei draed ef: a Gehasi a nesaodd i'w gwthio hi ymaith. A gŵr Duw a ddywedodd, Gad hi yn llonydd: canys ei henaid sydd ofidus ynddi; a'r Arglwydd a'i celodd oddi wrthyf fi, ac nis mynegodd i mi.

28. Yna hi a ddywedodd, A ddymunais i fab gan fy arglwydd? oni ddywedais, Na thwylla fi?

29. Yna efe a ddywedodd wrth Gehasi, Gwregysa dy lwynau, a chymer fy ffon yn dy law, a dos ymaith: o chyfarfyddi â neb, na chyfarch iddo; ac o chyfarch neb di, nac ateb ef: a gosod fy ffon i ar wyneb y bachgen.

30. A mam y bachgen a ddywedodd, Fel mai byw yr Arglwydd, ac mai byw dy enaid di, nid ymadawaf fi â thi. Ac efe a gyfododd, ac a aeth ar ei hôl hi.

31. A Gehasi a gerddodd o'u blaen hwynt, ac a osododd y ffon ar wyneb y bachgen: ond nid oedd na lleferydd, na chlywed. Am hynny efe a ddychwelodd i'w gyfarfod ef; ac a fynegodd iddo, gan ddywedyd, Ni ddeffrôdd y bachgen.

32. A phan ddaeth Eliseus i mewn i'r tŷ, wele y bachgen wedi marw, yn gorwedd ar ei wely ef.

33. Felly efe a ddaeth i mewn, ac a gaeodd y drws arnynt ill dau, ac a weddïodd ar yr Arglwydd.

34. Ac efe a aeth i fyny, ac a orweddodd ar y bachgen, ac a osododd ei enau ar ei enau yntau, a'i lygaid ar ei lygaid ef, a'i ddwylo ar ei ddwylo ef, ac efe a ymestynnodd arno ef; a chynhesodd cnawd y bachgen.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 4