Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 4:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A rhyw wraig o wragedd meibion y proffwydi a lefodd ar Eliseus, gan ddywedyd, Dy was fy ngŵr a fu farw; a thi a wyddost fod dy was yn ofni yr Arglwydd: a'r echwynnwr a ddaeth i gymryd fy nau fab i i fod yn gaethion iddo.

2. Ac Eliseus a ddywedodd wrthi, Beth a wnaf fi i ti? mynega i mi, beth sydd gennyt ti yn dy dŷ? Dywedodd hithau, Nid oes dim gan dy lawforwyn yn tŷ, ond ystenaid o olew.

3. Ac efe a ddywedodd, Dos, cais i ti lestri oddi allan gan dy holl gymdogion, sef llestri gweigion, nid ychydig.

4. A phan ddelych i mewn, cae y drws arnat, ac ar dy feibion, a thywallt i'r holl lestri hynny; a dod heibio yr hwn a fyddo llawn.

5. Felly hi a aeth oddi wrtho ef, ac a gaeodd y drws arni, ac ar ei meibion: a hwynt‐hwy a ddygasant y llestri ati hi; a hithau a dywalltodd.

6. Ac wedi llenwi y llestri, hi a ddywedodd wrth ei mab, Dwg i mi eto lestr. Dywedodd yntau wrthi, Nid oes mwyach un llestr. A'r olew a beidiodd.

7. Yna hi a ddaeth ac a fynegodd i ŵr Duw. Dywedodd yntau, Dos, gwerth yr olew, a thâl dy ddyled; a bydd di fyw, ti a'th feibion, ar y rhan arall.

8. A bu ar ryw ddiwrnod i Eliseus dramwyo i Sunem; ac yno yr oedd gwraig oludog, yr hon a'i cymhellodd ef i fwyta bara. A chynifer gwaith ag y tramwyai efe heibio, efe a droai yno i fwyta bara.

9. A hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Wele yn awr, mi a wn mai gŵr sanctaidd i Dduw ydyw hwn, sydd yn cyniwair heibio i ni yn wastadol.

10. Gwnawn, atolwg, ystafell fechan ar y mur; a gosodwn iddo yno wely, a bwrdd, ac ystôl, a chanhwyllbren: fel y tro efe yno, pan ddelo efe atom ni.

11. Ac ar ddyddgwaith efe a ddaeth yno, ac a drodd i'r ystafell, ac a orffwysodd yno.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 4