Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 3:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A Jehoram mab Ahab a aeth yn frenin ar Israel yn Samaria, yn y ddeunawfed flwyddyn i Jehosaffat brenin Jwda, ac a deyrnasodd ddeuddeng mlynedd.

2. Ac efe a wnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ond nid fel ei dad nac fel ei fam: canys efe a fwriodd ymaith ddelw Baal, yr hon a wnaethai ei dad.

3. Eto efe a lynodd wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu: ni chiliodd efe oddi wrthynt hwy.

4. A Mesa brenin Moab oedd berchen defaid, ac a dalai i frenin Israel gan mil o ŵyn, a chan mil o hyrddod gwlanog.

5. Ond wedi marw Ahab, brenin Moab a wrthryfelodd yn erbyn brenin Israel.

6. A'r brenin Jehoram a aeth allan y pryd hwnnw o Samaria, ac a gyfrifodd holl Israel.

7. Efe a aeth hefyd ac a anfonodd at Jehosaffat brenin Jwda, gan ddywedyd, Brenin Moab a wrthryfelodd i'm herbyn i: a ddeui di gyda mi i ryfel yn erbyn Moab? Dywedodd yntau, Mi a af i fyny; myfi a fyddaf fel tithau, fy mhobl i fel dy bobl dithau, fy meirch i fel dy feirch dithau.

8. Ac efe a ddywedodd, Pa ffordd yr awn ni i fyny? Dywedodd yntau, Ffordd anialwch Edom.

9. Felly yr aeth brenin Israel, a brenin Jwda, a brenin Edom; ac a aethant o amgylch ar eu taith saith niwrnod: ac nid oedd dwfr i'r fyddin, nac i'r anifeiliaid oedd yn eu canlyn hwynt.

10. A brenin Israel a ddywedodd, Gwae fi! oherwydd i'r Arglwydd alw y tri brenin hyn ynghyd i'w rhoddi yn llaw Moab.

11. A Jehosaffat a ddywedodd, Onid oes yma broffwyd i'r Arglwydd, fel yr ymofynnom ni â'r Arglwydd trwyddo ef? Ac un o weision brenin Israel a atebodd ac a ddywedodd, Y mae yma Eliseus mab Saffat, yr hwn a dywalltodd ddwfr ar ddwylo Eleias.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 3