Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 25:23-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

23. A phan glybu holl dywysogion y lluoedd, hwynt‐hwy a'u gwŷr, wneuthur o frenin Babilon Gedaleia yn swyddog, hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa, sef Ismael mab Nethaneia, a Johanan mab Carea, a Seraia mab Tanhumeth y Netoffathiad, a Jaasaneia mab Maachathiad, hwynt a'u gwŷr.

24. A Gedaleia a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwŷr, ac a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch fod yn weision i'r Caldeaid: trigwch yn y tir, a gwasanaethwch frenin Babilon, a bydd da i chwi.

25. Ac yn y seithfed mis y daeth Ismael mab Nethaneia, mab Elisama, o'r had brenhinol, a dengwr gydag ef, a hwy a drawsant Gedaleia, fel y bu efe farw: trawsant hefyd yr Iddewon a'r Caldeaid oedd gydag ef ym Mispa.

26. A'r holl bobl o fychan hyd fawr, a thywysogion y lluoedd, a gyfodasant ac a ddaethant i'r Aifft: canys yr oeddynt yn ofni'r Caldeaid.

27. Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethiwed Joachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y seithfed dydd ar hugain o'r mis, Efilmerodach brenin Babilon, yn y flwyddyn yr aeth efe yn frenin, a ddyrchafodd ben Joachin brenin Jwda o'r carchardy.

28. Ac efe a ddywedodd yn deg wrtho, ac a osododd ei gadair ef goruwch cadeiriau y brenhinoedd oedd gydag ef yn Babilon.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 25