Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 25:19-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Ac o'r ddinas efe a gymerth ystafellydd, yr hwn oedd ar y rhyfelwyr, a phumwr o'r rhai oedd yn gweled wyneb y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas, ac ysgrifennydd tywysog y llu, yr hwn oedd yn byddino pobl y wlad; a thrigeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yn y ddinas.

20. A Nebusaradan y distain a gymerth y rhai hyn, ac a'u dug at frenin Babilon, i Ribla.

21. A brenin Babilon a'u trawodd hwynt, ac a'u lladdodd hwynt, yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Felly y caethgludwyd Jwda o'i wlad ei hun.

22. Ac am y bobl a adawsid yng ngwlad Jwda, y rhai a adawsai Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a wnaeth yn swyddog arnynt hwy, Gedaleia mab Ahicam, mab Saffan.

23. A phan glybu holl dywysogion y lluoedd, hwynt‐hwy a'u gwŷr, wneuthur o frenin Babilon Gedaleia yn swyddog, hwy a ddaethant at Gedaleia i Mispa, sef Ismael mab Nethaneia, a Johanan mab Carea, a Seraia mab Tanhumeth y Netoffathiad, a Jaasaneia mab Maachathiad, hwynt a'u gwŷr.

24. A Gedaleia a dyngodd wrthynt hwy, ac wrth eu gwŷr, ac a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch fod yn weision i'r Caldeaid: trigwch yn y tir, a gwasanaethwch frenin Babilon, a bydd da i chwi.

25. Ac yn y seithfed mis y daeth Ismael mab Nethaneia, mab Elisama, o'r had brenhinol, a dengwr gydag ef, a hwy a drawsant Gedaleia, fel y bu efe farw: trawsant hefyd yr Iddewon a'r Caldeaid oedd gydag ef ym Mispa.

26. A'r holl bobl o fychan hyd fawr, a thywysogion y lluoedd, a gyfodasant ac a ddaethant i'r Aifft: canys yr oeddynt yn ofni'r Caldeaid.

27. Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain o gaethiwed Joachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y seithfed dydd ar hugain o'r mis, Efilmerodach brenin Babilon, yn y flwyddyn yr aeth efe yn frenin, a ddyrchafodd ben Joachin brenin Jwda o'r carchardy.

28. Ac efe a ddywedodd yn deg wrtho, ac a osododd ei gadair ef goruwch cadeiriau y brenhinoedd oedd gydag ef yn Babilon.

29. Ac efe a newidiodd ei garcharwisg ef: ac efe a fwytaodd fwyd yn wastadol ger ei fron ef holl ddyddiau ei einioes.

30. A'i ran ef oedd ran feunyddiol, a roddid iddo gan y brenin, dogn dydd yn ei ddydd, holl ddyddiau ei einioes ef.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 25