30. A'i weision a'i dygasant ef mewn cerbyd yn farw o Megido, ac a'i dygasant ef i Jerwsalem, ac a'i claddasant ef yn ei feddrod ei hun. A phobl y wlad a gymerasant Joahas mab Joseia, ac a'i heneiniasant ef, ac a'i hurddasant yn frenin yn lle ei dad.
31. Mab tair blwydd ar hugain oedd Joahas pan aeth efe yn frenin, a thri mis y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna.
32. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dadau ef.
33. A Pharo‐Necho a'i rhwymodd ef yn Ribla yng ngwlad Hamath, fel na theyrnasai efe yn Jerwsalem: ac a osododd dreth ar y wlad o gan talent o arian, a thalent o aur.
34. A Pharo‐Necho a osododd Eliacim mab Joseia yn frenin yn lle Joseia ei dad, ac a drodd ei enw ef Joacim: ac efe a ddug ymaith Joahas, ac efe a ddaeth i'r Aifft, ac yno y bu efe farw.
35. A Joacim a roddodd i Pharo yr arian, a'r aur; ond efe a drethodd y wlad i roddi yr arian wrth orchymyn Pharo: efe a gododd yr arian a'r aur ar bobl y wlad, ar bob un yn ôl ei dreth, i'w rhoddi i Pharo‐Necho.
36. Mab pum mlwydd ar hugain oedd Joacim pan ddechreuodd efe deyrnasu, ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Sebuda, merch Pedaia o Ruma.
37. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai ei dadau.