Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 21:6-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Ac efe a dynnodd ei fab trwy dân, ac a arferodd hudoliaeth, a brudiau, ac a fawrhaodd swynyddion, a dewiniaid: efe a wnaeth lawer o ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, i'w ddigio ef.

7. Ac efe a osododd ddelw gerfiedig y llwyn a wnaethai efe, yn y tŷ am yr hwn y dywedasai yr Arglwydd wrth Dafydd, ac wrth Solomon ei fab, Yn y tŷ hwn, ac yn Jerwsalem, yr hon a ddewisais i o holl lwythau Israel, y gosodaf fi fy enw yn dragywydd:

8. Ac ni symudaf mwyach droed Israel o'r wlad a roddais i'w tadau hwynt: yn unig os gwyliant ar wneuthur yr hyn oll a orchmynnais iddynt, ac yn ôl yr holl gyfraith a orchmynnodd fy ngwas Moses iddynt.

9. Ond ni wrandawsant hwy: a Manasse a'u cyfeiliornodd hwynt i wneuthur yn waeth na'r cenhedloedd a ddifethasai yr Arglwydd o flaen meibion Israel.

10. A llefarodd yr Arglwydd trwy law ei weision y proffwydi, gan ddywedyd,

11. Oherwydd i Manasse brenin Jwda wneuthur y ffieidd‐dra hyn, a gwneuthur yn waeth na'r hyn oll a wnaethai yr Amoriaid a fu o'i flaen ef, a pheri i Jwda bechu trwy ei eilunod:

12. Oblegid hynny, fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel, Wele fi yn dwyn drwg ar Jerwsalem a Jwda, fel y merwino dwy glust y sawl a'i clywant.

13. A mi a estynnaf linyn mesur Samaria ar Jerwsalem, a phwys tŷ Ahab: golchaf hefyd Jerwsalem fel y gylch un gwpan, yr hwn pan olcho, efe a'i try ar ei wyneb.

14. A mi a wrthodaf weddill fy etifeddiaeth, ac a'u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, a hwy a fyddant yn anrhaith ac yn ysbail i'w holl elynion:

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 21