Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 21:13-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. A mi a estynnaf linyn mesur Samaria ar Jerwsalem, a phwys tŷ Ahab: golchaf hefyd Jerwsalem fel y gylch un gwpan, yr hwn pan olcho, efe a'i try ar ei wyneb.

14. A mi a wrthodaf weddill fy etifeddiaeth, ac a'u rhoddaf hwynt yn llaw eu gelynion, a hwy a fyddant yn anrhaith ac yn ysbail i'w holl elynion:

15. Am iddynt wneuthur yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i, a'u bod yn fy nigio i, er y dydd y daeth eu tadau hwynt allan o'r Aifft, hyd y dydd hwn.

16. Manasse hefyd a dywalltodd lawer iawn o waed gwirion, hyd oni lanwodd efe Jerwsalem o ben bwygilydd; heblaw ei bechod trwy yr hwn y gwnaeth efe i Jwda bechu, gan wneuthur yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.

17. A'r rhan arall o hanes Manasse, a'r hyn a wnaeth efe, a'i bechod a bechodd efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

18. A Manasse a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd yng ngardd ei dŷ ei hun, sef yng ngardd Ussa; ac Amon ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

19. Mab dwy flwydd ar hugain oedd Amon pan ddechreuodd efe deyrnasu, a dwy flynedd y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Mesulemeth, merch Harus o Jotba.

20. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, fel y gwnaethai Manasse ei dad.

21. Ac efe a rodiodd yn yr holl ffyrdd y rhodiasai ei dad ynddynt, ac a wasanaethodd yr eilunod a wasanaethasai ei dad, ac a ymgrymodd iddynt:

22. Ac efe a wrthododd Arglwydd Dduw ei dadau, ac ni rodiodd yn ffordd yr Arglwydd.

23. A gweision Amon a fradfwriadasant yn ei erbyn ef, ac a laddasant y brenin yn ei dŷ ei hun.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 21