Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 2:16-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. A hwy a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, y mae gyda'th weision ddeg a deugain o wŷr cryfion; elont yn awr, ni a atolygwn, a cheisiant dy feistr: rhag i ysbryd yr Arglwydd ei ddwyn ef, a'i fwrw ar ryw fynydd, neu mewn rhyw ddyffryn. Dywedodd yntau, Na anfonwch.

17. Eto buant daer arno, nes cywilyddio ohono, ac efe a ddywedodd, Anfonwch. A hwy a anfonasant ddengwr a deugain, y rhai a'i ceisiasant ef dridiau, ond nis cawsant.

18. A hwy a ddychwelasant ato ef, ac efe oedd yn aros yn Jericho; ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Oni ddywedais i wrthych, Nac ewch?

19. A gwŷr y ddinas a ddywedasant wrth Eliseus, Wele, atolwg, ansawdd y ddinas, da yw, fel y mae fy arglwydd yn gweled: ond y dyfroedd sydd ddrwg, a'r tir yn ddiffaith.

20. Ac efe a ddywedodd, Dygwch i mi ffiol newydd, a dodwch ynddi halen. A hwy a'i dygasant ato ef.

21. Ac efe a aeth at ffynhonnell y dyfroedd, ac a fwriodd yr halen yno, ac a ddywedodd, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Mi a iacheais y dyfroedd hyn; ni bydd oddi yno farwolaeth mwyach, na diffrwythdra.

22. Felly yr iachawyd y dyfroedd hyd y dydd hwn, yn ôl gair Eliseus, yr hwn a ddywedasai efe.

23. Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Bethel: ac fel yr oedd efe yn myned i fyny ar hyd y ffordd, plant bychain a ddaeth allan o'r ddinas, ac a'i gwatwarasant ef, ac a ddywedasant wrtho ef, Dos i fyny, moelyn, dos i fyny, moelyn.

24. Ac efe a drodd yn ei ôl, ac a edrychodd arnynt, ac a'u melltithiodd yn enw yr Arglwydd. A dwy arth a ddaeth allan o'r goedwig, ac a ddrylliodd ohonynt ddau blentyn a deugain.

25. Ac efe a aeth oddi yno i fynydd Carmel, ac oddi yno efe a ddychwelodd i Samaria.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 2