Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 19:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A phan glybu y brenin Heseceia hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd â sachliain, ac a aeth i mewn i dŷ yr Arglwydd.

2. Ac efe a anfonodd Eliacim, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a henuriaid yr offeiriaid, wedi ymwisgo mewn sachliain, at Eseia y proffwyd mab Amos.

3. A hwy a ddywedasant wrtho ef, Fel hyn y dywed Heseceia, Diwrnod cyfyngdra, a cherydd, a chabledd yw y dydd hwn: canys y plant a ddaethant hyd yr enedigaeth, ond nid oes grym i esgor.

4. Fe allai y gwrendy yr Arglwydd dy Dduw holl eiriau Rabsace, yr hwn a anfonodd brenin Asyria ei feistr ef i gablu y Duw byw, ac y cerydda efe y geiriau a glybu yr Arglwydd dy Dduw: am hynny dyrcha dy weddi dros y gweddill sydd i'w gael.

5. Felly gweision y brenin Heseceia a ddaethant at Eseia.

6. Ac Eseia a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywedwch wrth eich meistr, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Nac ofna y geiriau a glywaist, trwy y rhai y cablodd gweision brenin Asyria fi.

7. Wele fi yn rhoddi arno ef wynt, ac efe a glyw sŵn, ac a ddychwel i'w wlad: gwnaf hefyd iddo syrthio gan y cleddyf yn ei wlad ei hun.

8. Yna y dychwelodd Rabsace, ac a gafodd frenin Asyria yn ymladd yn erbyn Libna: canys efe a glywsai fyned ohono ef ymaith o Lachis.

9. A phan glybu efe am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Wele, efe a ddaeth allan i ryfela â thi; efe a anfonodd genhadau drachefn at Heseceia, gan ddywedyd,

10. Fel hyn y lleferwch wrth Heseceia brenin Jwda, gan ddywedyd, Na thwylled dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ymddiried ynddo, gan ddywedyd, Ni roddir Jerwsalem yn llaw brenin Asyria.

11. Wele, ti a glywaist yr hyn a wnaeth brenhinoedd Asyria i'r holl wledydd, gan eu difrodi hwynt: ac a waredir di?

12. A waredodd duwiau y cenhedloedd hwynt, y rhai a ddarfu i'm tadau i eu dinistrio; sef Gosan, a Haran, a Reseff, a meibion Eden y rhai oedd o fewn Thelasar?

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 19