Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 18:7-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. A'r Arglwydd fu gydag ef; i ba le bynnag yr aeth, efe a lwyddodd: ac efe a wrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria, ac nis gwasanaethodd ef.

8. Efe a drawodd y Philistiaid hyd Gasa a'i therfynau, o dŵr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog.

9. Ac yn y bedwaredd flwyddyn i'r brenin Heseceia, honno oedd y seithfed flwyddyn i Hosea mab Ela brenin Israel, y daeth Salmaneser brenin Asyria i fyny yn erbyn Samaria, ac a warchaeodd arni hi.

10. Ac ymhen y tair blynedd yr enillwyd hi; yn y chweched flwyddyn i Heseceia, honno oedd y nawfed flwyddyn i Hosea brenin Israel, yr enillwyd Samaria.

11. A brenin Asyria a gaethgludodd Israel i Asyria, ac a'u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid:

12. Am na wrandawsent ar lais yr Arglwydd eu Duw, eithr troseddu ei gyfamod ef, a'r hyn oll a orchmynasai Moses gwas yr Arglwydd, ac na wrandawent arnynt, ac nas gwnaent hwynt.

13. Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg i'r brenin Heseceia, y daeth Senacherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl ddinasoedd caerog Jwda, ac a'u henillodd hwynt.

14. A Heseceia brenin Jwda a anfonodd at frenin Asyria i Lachis, gan ddywedyd, Pechais, dychwel oddi wrthyf: dygaf yr hyn a roddych arnaf. A brenin Asyria a osododd ar Heseceia brenin Jwda, dri chant o dalentau arian, a deg ar hugain o dalentau aur.

15. A Heseceia a roddodd iddo yr holl arian a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhrysorau tŷ y brenin.

16. Yn yr amser hwnnw y torrodd Heseceia yr aur oddi ar ddrysau teml yr Arglwydd, ac oddi ar y colofnau a orchuddiasai Heseceia brenin Jwda, ac a'u rhoddes hwynt i frenin Asyria.

17. A brenin Asyria a anfonodd Tartan, a Rabsaris, a Rabsace, o Lachis, at y brenin Heseceia, â llu dirfawr yn erbyn Jerwsalem. A hwy a aethant i fyny, ac a ddaethant i Jerwsalem. Ac wedi eu dyfod i fyny, hwy a ddaethant ac a safasant wrth bistyll y llyn uchaf, yr hwn sydd ym mhriffordd maes y pannwr.

18. Ac wedi iddynt alw ar y brenin, daeth allan atynt hwy Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur.

19. A Rabsace a ddywedodd wrthynt hwy, Dywedwch yn awr wrth Heseceia, Fel hyn y dywedodd y brenin mawr, brenin Asyria, Pa hyder yw hwn yr wyt yn ymddiried ynddo?

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 18