3. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Dafydd ei dad ef.
4. Efe a dynnodd ymaith yr uchelfeydd, ac a ddrylliodd y delwau, ac a dorrodd y llwyni, ac a faluriodd y sarff bres a wnaethai Moses; canys hyd y dyddiau hynny yr oedd meibion Israel yn arogldarthu iddi hi: ac efe a'i galwodd hi Nehustan.
5. Yn Arglwydd Dduw Israel yr ymddiriedodd efe, ac ar ei ôl ef ni bu ei fath ef ymhlith holl frenhinoedd Jwda, nac ymysg y rhai a fuasai o'i flaen ef.
6. Canys efe a lynodd wrth yr Arglwydd, ni throdd efe oddi ar ei ôl ef, eithr efe a gadwodd ei orchmynion ef, y rhai a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
7. A'r Arglwydd fu gydag ef; i ba le bynnag yr aeth, efe a lwyddodd: ac efe a wrthryfelodd yn erbyn brenin Asyria, ac nis gwasanaethodd ef.