Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 18:21-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

21. Wele yn awr, y mae dy hyder ar y ffon gorsen ddrylliedig hon, ar yr Aifft, yr hon pwy bynnag a bwyso arni, hi a â i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi hi: felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno ef.

22. Ac os dywedwch wrthyf, Yn yr Arglwydd ein Duw yr ydym ni yn ymddiried; onid efe yw yr hwn y tynnodd Heseceia ymaith ei uchelfeydd, a'i allorau, ac y dywedodd wrth Jwda ac wrth Jerwsalem, O flaen yr allor hon yr ymgrymwch chwi yn Jerwsalem?

23. Yn awr gan hynny dod wystlon, atolwg, i'm harglwydd, brenin Asyria, a rhoddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt hwy.

24. A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o'r gweision lleiaf i'm harglwydd, ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau a gwŷr meirch?

25. Ai heb yr Arglwydd y deuthum i fyny yn erbyn y lle hwn, i'w ddinistrio ef? Yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dos i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi.

26. Yna y dywedodd Eliacim mab Hilceia, a Sebna, a Joa, wrth Rabsace, Llefara, atolwg, wrth dy weision yn Syriaeg, canys yr ydym ni yn ei deall hi; ac nac ymddiddan â ni yn iaith yr Iddewon, lle y clywo y bobl sydd ar y mur.

27. Ond Rabsace a ddywedodd wrthynt, Ai at dy feistr di, ac atat tithau, yr anfonodd fy meistr fi, i lefaru y geiriau hyn? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur, fel y bwytaont eu tom eu hun, ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi, yr anfonodd fi?

28. Felly Rabsace a safodd, ac a waeddodd â llef uchel yn iaith yr Iddewon, llefarodd hefyd, a dywedodd, Gwrandewch air y brenin mawr, brenin Asyria.

29. Fel hyn y dywedodd y brenin, Na thwylled Heseceia chwi: canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi o'm llaw i.

30. Ac na phared Heseceia i chwi ymddiried yn yr Arglwydd, gan ddywedyd, Yr Arglwydd gan waredu a'n gwared ni, ac ni roddir y ddinas hon yn llaw brenin Asyria.

31. Na wrandewch ar Heseceia: canys fel hyn y dywed brenin Asyria, Gwnewch fwynder â mi, a deuwch allan ataf fi, ac yna bwytewch bob un o'i winwydden ei hun, a phob un o'i ffigysbren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun:

32. Nes i mi ddyfod a'ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd, gwlad olew olewydd a mêl, fel y byddoch fyw, ac na byddoch feirw: ac na wrandewch ar Heseceia, pan hudo efe chwi, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a'n gwared ni.

33. A lwyr waredodd yr un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria?

34. Mae duwiau Hamath ac Arpad? mae duwiau Seffarfaim, Hena, ac Ifa? a achubasant hwy Samaria o'm llaw i?

35. Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd a waredasant eu gwlad o'm llaw i, fel y gwaredai yr Arglwydd Jerwsalem o'm llaw i?

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 18