Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 18:16-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Yn yr amser hwnnw y torrodd Heseceia yr aur oddi ar ddrysau teml yr Arglwydd, ac oddi ar y colofnau a orchuddiasai Heseceia brenin Jwda, ac a'u rhoddes hwynt i frenin Asyria.

17. A brenin Asyria a anfonodd Tartan, a Rabsaris, a Rabsace, o Lachis, at y brenin Heseceia, â llu dirfawr yn erbyn Jerwsalem. A hwy a aethant i fyny, ac a ddaethant i Jerwsalem. Ac wedi eu dyfod i fyny, hwy a ddaethant ac a safasant wrth bistyll y llyn uchaf, yr hwn sydd ym mhriffordd maes y pannwr.

18. Ac wedi iddynt alw ar y brenin, daeth allan atynt hwy Eliacim mab Hilceia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur.

19. A Rabsace a ddywedodd wrthynt hwy, Dywedwch yn awr wrth Heseceia, Fel hyn y dywedodd y brenin mawr, brenin Asyria, Pa hyder yw hwn yr wyt yn ymddiried ynddo?

20. Dywedyd yr ydwyt, (ond nid ydynt ond geiriau ofer,) Y mae gennyf gyngor a nerth i ryfel. Ar bwy y mae dy hyder, pan wrthryfelaist i'm herbyn i?

21. Wele yn awr, y mae dy hyder ar y ffon gorsen ddrylliedig hon, ar yr Aifft, yr hon pwy bynnag a bwyso arni, hi a â i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi hi: felly y mae Pharo brenin yr Aifft i bawb a hyderant arno ef.

22. Ac os dywedwch wrthyf, Yn yr Arglwydd ein Duw yr ydym ni yn ymddiried; onid efe yw yr hwn y tynnodd Heseceia ymaith ei uchelfeydd, a'i allorau, ac y dywedodd wrth Jwda ac wrth Jerwsalem, O flaen yr allor hon yr ymgrymwch chwi yn Jerwsalem?

23. Yn awr gan hynny dod wystlon, atolwg, i'm harglwydd, brenin Asyria, a rhoddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt hwy.

24. A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o'r gweision lleiaf i'm harglwydd, ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau a gwŷr meirch?

25. Ai heb yr Arglwydd y deuthum i fyny yn erbyn y lle hwn, i'w ddinistrio ef? Yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dos i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi.

26. Yna y dywedodd Eliacim mab Hilceia, a Sebna, a Joa, wrth Rabsace, Llefara, atolwg, wrth dy weision yn Syriaeg, canys yr ydym ni yn ei deall hi; ac nac ymddiddan â ni yn iaith yr Iddewon, lle y clywo y bobl sydd ar y mur.

27. Ond Rabsace a ddywedodd wrthynt, Ai at dy feistr di, ac atat tithau, yr anfonodd fy meistr fi, i lefaru y geiriau hyn? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur, fel y bwytaont eu tom eu hun, ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi, yr anfonodd fi?

28. Felly Rabsace a safodd, ac a waeddodd â llef uchel yn iaith yr Iddewon, llefarodd hefyd, a dywedodd, Gwrandewch air y brenin mawr, brenin Asyria.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 18