Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 17:32-41 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

32. Felly hwy a ofnasant yr Arglwydd, ac a wnaethant iddynt rai o'u gwehilion yn offeiriaid yr uchelfeydd, y rhai a wnaethant aberthau iddynt yn nhai yr uchelfeydd.

33. Yr Arglwydd yr oeddynt hwy yn ei ofni, a gwasanaethu yr oeddynt eu duwiau, yn ôl defod y cenhedloedd y rhai a ddygasent oddi yno.

34. Hyd y dydd hwn y maent hwy yn gwneuthur yn ôl eu hen arferion: nid ydynt yn ofni yr Arglwydd, ac nid ydynt yn gwneuthur yn ôl eu deddfau hwynt, nac yn ôl eu harfer, nac yn ôl y gyfraith na'r gorchymyn a orchmynnodd yr Arglwydd i feibion Jacob, yr hwn y gosododd efe ei enw, Israel.

35. A'r Arglwydd a wnaethai gyfamod â hwynt, ac a orchmynasai iddynt, gan ddywedyd, Nac ofnwch dduwiau dieithr, ac nac ymgrymwch iddynt, ac na wasanaethwch hwynt, ac nac aberthwch iddynt:

36. Ond yr Arglwydd yr hwn a'ch dug chwi i fyny o wlad yr Aifft â nerth mawr, ac â braich estynedig, ef a ofnwch chwi, ac iddo ef yr ymgrymwch, ac iddo ef yr aberthwch.

37. Y deddfau hefyd, a'r barnedigaethau, a'r gyfraith, a'r gorchymyn, a ysgrifennodd efe i chwi, a gedwch chwi i'w gwneuthur byth; ac nac ofnwch dduwiau dieithr.

38. Ac nac anghofiwch y cyfamod a amodais â chwi, ac nac ofnwch dduwiau dieithr:

39. Eithr ofnwch yr Arglwydd eich Duw; ac efe a'ch gwared chwi o law eich holl elynion.

40. Ond ni wrandawsant hwy, eithr yn ôl eu hen arfer y gwnaethant hwy.

41. Felly y cenhedloedd hyn oedd yn ofni'r Arglwydd, ac yn gwasanaethu eu delwau cerfiedig; eu plant a'u hwyrion: fel y gwnaeth eu tadau, y maent hwy yn gwneuthur hyd y dydd hwn.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 17