Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 16:3-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Eithr rhodiodd yn ffordd brenhinoedd Israel, ac a dynnodd ei fab trwy'r tân, yn ôl ffieidd‐dra'r cenhedloedd a fwriasai yr Arglwydd allan o flaen meibion Israel.

4. Ac efe a aberthodd ac a arogldarthodd yn yr uchelfeydd, ac ar y bryniau, a than bob pren gwyrddlas.

5. Yna y daeth Resin brenin Syria, a Pheca mab Remaleia brenin Israel, i fyny i Jerwsalem i ryfel; a hwy a warchaeasant ar Ahas; ond ni allasant hwy ei orchfygu ef.

6. Yn yr amser hwnnw Resin brenin Syria a ddug drachefn Elath at Syria, ac a yrrodd yr Iddewon o Elath: a'r Syriaid a ddaethant i Elath, ac a breswyliasant yno hyd y dydd hwn.

7. Yna Ahas a anfonodd genhadau at Tiglath‐pileser brenin Asyria, gan ddywedyd, Dy was di a'th fab di ydwyf fi: tyred i fyny, a gwared fi o law brenin Syria, ac o law brenin Israel, y rhai sydd yn cyfodi yn fy erbyn i.

8. Ac Ahas a gymerth yr arian a'r aur a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhrysorau tŷ y brenin, ac a'u hanfonodd yn anrheg i frenin Asyria.

9. A brenin Asyria a wrandawodd arno ef; a brenin Asyria a ddaeth i fyny i Damascus, ac a'i henillodd hi, ac a gaethgludodd ei thrigolion i Cir, ac a laddodd Resin.

10. A'r brenin Ahas a aeth i Damascus i gyfarfod Tiglath‐pileser brenin Asyria, ac a welodd allor oedd yn Damascus: a'r brenin Ahas a anfonodd at Ureia yr offeiriad agwedd yr allor a'i phortreiad, yn ôl ei holl wneuthuriad.

11. Ac Ureia yr offeiriad a adeiladodd allor yn ôl yr hyn oll a anfonasai y brenin Ahas o Damascus: felly y gwnaeth Ureia yr offeiriad, erbyn dyfod y brenin Ahas o Damascus.

12. A phan ddaeth y brenin o Damascus, y brenin a ganfu yr allor: a'r brenin a nesaodd at yr allor, ac a offrymodd arni hi.

13. Ac efe a losgodd ei boethoffrwm, a'i fwyd‐offrwm, ac a dywalltodd ei ddiod‐offrwm, ac a daenellodd waed ei offrymau hedd ar yr allor.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 16