Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 15:15-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. A'r rhan arall o hanes Salum, a'i fradwriaeth ef yr hon a fradfwriadodd efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.

16. Yna Menahem a drawodd Tiffsa, a'r rhai oll oedd ynddi, a'i therfynau, o Tirsa: oherwydd nad agorasant iddo ef, am hynny y trawodd efe hi; a'i holl wragedd beichiogion a rwygodd efe.

17. Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Menahem mab Gadi ar Israel, a deng mlynedd y teyrnasodd efe yn Samaria.

18. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: ni throdd efe yn ei holl ddyddiau oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

19. A Phul brenin Asyria a ddaeth yn erbyn y wlad; a Menahem a roddodd i Pul fil o dalentau arian, fel y byddai ei law gydag ef, i sicrhau y frenhiniaeth yn ei law ef.

20. A Menahem a gododd yr arian ar Israel, sef ar yr holl rai cedyrn o allu, ar bob un ddeg sicl a deugain o arian, i'w rhoddi i frenin Asyria; felly brenin Asyria a ddychwelodd, ac nid arhosodd yno yn y wlad.

21. A'r rhan arall o hanes Menahem, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

22. A Menahem a hunodd gyda'i dadau; a Phecaheia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

23. Yn y ddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Pecaheia mab Menahem ar Israel yn Samaria, a dwy flynedd y teyrnasodd efe.

24. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

25. A Pheca mab Remaleia ei dywysog ef a fradfwriadodd yn ei erbyn ef, ac a'i trawodd ef yn Samaria, yn llys y brenin, gydag Argob, ac Arie, a chydag ef ddeng ŵr a deugain o feibion y Gileadiaid: ac efe a'i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei le ef.

26. A'r rhan arall o hanes Pecaheia, a'r hyn oll a wnaeth efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.

27. Yn y ddeuddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Peca mab Remaleia ar Israel yn Samaria, ac ugain mlynedd y teyrnasodd efe.

28. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

29. Yn nyddiau Peca brenin Israel y daeth Tiglath‐pileser brenin Asyria, ac a enillodd Ijon, ac Abel‐beth‐maacha, a Janoa, Cedes hefyd, a Hasor, a Gilead, a Galilea, holl wlad Nafftali, ac a'u caethgludodd hwynt i Asyria.

30. A Hosea mab Ela a fradfwriadodd fradwriaeth yn erbyn Peca mab Remaleia, ac a'i trawodd ef, ac a'i lladdodd, ac a deyrnasodd yn ei le ef, yn yr ugeinfed flwyddyn i Jotham mab Usseia.

31. A'r rhan arall o hanes Peca, a'r hyn oll a wnaeth efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.

32. Yn yr ail flwyddyn i Peca mab Remaleia brenin Israel y dechreuodd Jotham mab Usseia brenin Jwda deyrnasu.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 15