Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 15:1-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Jeroboam brenin Israel y teyrnasodd Asareia mab Amaseia brenin Jwda.

2. Mab un flwydd ar bymtheg ydoedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam oedd Jecholeia o Jerwsalem.

3. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef:

4. Ond na thynnwyd ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.

5. A'r Arglwydd a drawodd y brenin, fel y bu efe wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, ac y trigodd mewn tŷ o'r neilltu: a Jotham mab y brenin oedd ar y tŷ yn barnu pobl y wlad.

6. A'r rhan arall o hanes Asareia, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

7. Ac Asareia a hunodd gyda'i dadau, a chladdasant ef gyda'i dadau yn ninas Dafydd; a Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

8. Yn y drydedd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asareia brenin Jwda, y teyrnasodd Sachareia mab Jeroboam ar Israel yn Samaria chwe mis.

9. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, megis y gwnaethai ei dadau: ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu.

10. A Salum mab Jabes a fradfwriadodd yn ei erbyn ef, ac a'i trawodd ef gerbron y bobl, ac a'i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei le ef.

11. A'r rhan arall o hanes Sachareia, wele, y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.

12. Dyma air yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe wrth Jehu, gan ddywedyd, Meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfa Israel. Ac felly y bu.

13. Salum mab Jabes a ddechreuodd deyrnasu yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Usseia, brenin Jwda, a mis cyfan y teyrnasodd efe yn Samaria.

14. Canys Menahem mab Gadi a aeth i fyny o Tirsa, ac a ddaeth i Samaria, ac a drawodd Salum mab Jabes yn Samaria, ac a'i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei le ef.

15. A'r rhan arall o hanes Salum, a'i fradwriaeth ef yr hon a fradfwriadodd efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.

16. Yna Menahem a drawodd Tiffsa, a'r rhai oll oedd ynddi, a'i therfynau, o Tirsa: oherwydd nad agorasant iddo ef, am hynny y trawodd efe hi; a'i holl wragedd beichiogion a rwygodd efe.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 15