5. A phan sicrhawyd ei deyrnas yn ei law ef, efe a laddodd ei weision y rhai a laddasent y brenin ei dad ef.
6. Ond ni laddodd efe feibion y lleiddiaid; fel y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses, yn yr hon y gorchmynasai yr Arglwydd, gan ddywedyd, Na ladder y tadau dros y meibion, ac na ladder y meibion dros y tadau; ond lladder pob un am ei bechod ei hun.
7. Efe a drawodd o'r Edomiaid, yn nyffryn yr halen, ddeng mil, ac a enillodd y graig mewn rhyfel, ac a alwodd ei henw Joctheel, hyd y dydd hwn.
8. Yna Amaseia a anfonodd genhadau at Joas mab Joahas, mab Jehu, brenin Israel, gan ddywedyd, Tyred, gwelwn wyneb ein gilydd.
9. A Joas brenin Israel a anfonodd at Amaseia brenin Jwda, gan ddywedyd, Yr ysgellyn yn Libanus a anfonodd at y gedrwydden yn Libanus, gan ddywedyd, Dyro dy ferch i'm mab i yn wraig. A bwystfil y maes yr hwn oedd yn Libanus a dramwyodd ac a sathrodd yr ysgellyn.
10. Gan daro y trewaist yr Edomiaid, am hynny dy galon a'th falchïodd: ymffrostia, ac eistedd yn dy dŷ: canys i ba beth yr ymyrri i'th ddrwg dy hun, fel y syrthit ti, a Jwda gyda thi?
11. Ond ni wrandawai Amaseia. Am hynny Joas brenin Israel a aeth i fyny, a hwy a welsant wynebau ei gilydd, efe ac Amaseia brenin Jwda, yn Beth‐semes, yr hon sydd yn Jwda.
12. A Jwda a drawyd o flaen Israel; a hwy a ffoesant bawb i'w pebyll.
13. A Joas brenin Israel a ddaliodd Amaseia brenin Jwda, mab Joas, mab Ahaseia, yn Beth‐semes, ac a ddaeth i Jerwsalem, ac a dorrodd i lawr fur Jerwsalem, o borth Effraim hyd borth y gongl, bedwar can cufydd.
14. Ac efe a gymerth yr holl aur a'r arian, a'r holl lestri a'r a gafwyd yn nhŷ yr Arglwydd, ac yn nhrysorau tŷ y brenin, a gwystlon, ac a ddychwelodd i Samaria.
15. A'r rhan arall o hanes Joas, yr hyn a wnaeth efe, a'i gadernid, ac fel yr ymladdodd efe ag Amaseia brenin Jwda, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?
16. A Joas a hunodd gyda'i dadau, ac a gladdwyd yn Samaria gyda brenhinoedd Israel; a Jeroboam ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
17. Ac Amaseia mab Joas brenin Jwda a fu fyw ar ôl marwolaeth Joas mab Joahas brenin Israel bymtheng mlynedd.
18. A'r rhan arall o hanes Amaseia, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?
19. Ond hwy a fradfwriadasant yn ei erbyn ef yn Jerwsalem; ac efe a ffodd i Lachis: eto hwy a anfonasant ar ei ôl ef i Lachis, ac a'i lladdasant ef yno.
20. A hwy a'i dygasant ef ar feirch, ac efe a gladdwyd yn Jerwsalem gyda'i dadau, yn ninas Dafydd.
21. A holl bobl Jwda a gymerasant Asareia, ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg, ac a'i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad.
22. Efe a adeiladodd Elath, ac a'i rhoddodd hi drachefn i Jwda, ar ôl huno o'r brenin gyda'i dadau.
23. Yn y bymthegfed flwyddyn i Amaseia mab Joas brenin Jwda y teyrnasodd Jeroboam mab Joas brenin Israel yn Samaria; un flynedd a deugain y teyrnasodd efe.