19. A gŵr Duw a ddigiodd wrtho ef, ac a ddywedodd, Dylesit daro bump neu chwech o weithiau, yna y trawsit Syria nes ei difa: ac yn awr tair gwaith y trewi Syria.
20. Ac Eliseus a fu farw, a hwy a'i claddasant ef. A minteioedd y Moabiaid a ddaethant i'r wlad y flwyddyn honno.
21. A phan oeddynt hwy yn claddu gŵr, wele, hwy a ganfuant dorf, ac a fwriasant y gŵr i feddrod Eliseus. A phan aeth y gŵr i lawr a chyffwrdd ag esgyrn Eliseus, efe a ddadebrodd, ac a gyfododd ar ei draed.
22. A Hasael brenin Syria a orthrymodd Israel holl ddyddiau Joahas.
23. A'r Arglwydd a drugarhaodd wrthynt hwy, ac a dosturiodd wrthynt hwy, ac a drodd atynt hwy, er mwyn ei gyfamod ag Abraham, Isaac, a Jacob, ac ni fynnai eu dinistrio hwynt, ac ni fwriodd efe hwynt allan o'i olwg hyd yn hyn.
24. Felly Hasael brenin Syria a fu farw; a Benhadad ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
25. A Joas mab Joahas a enillodd yn eu hôl o law Benhadad mab Hasael, y dinasoedd a ddygasai efe o law Joahas ei dad ef mewn rhyfel: Joas a'i trawodd ef dair gwaith, ac a ddug adref ddinasoedd Israel.