1. Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Joas mab Ahaseia brenin Jwda, y teyrnasodd Joahas mab Jehu ar Israel yn Samaria, a dwy flynedd ar bymtheg y teyrnasodd efe.
2. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ac a rodiodd ar ôl pechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu; ni throdd oddi wrthynt hwy.
3. A digofaint yr Arglwydd a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a'u rhoddodd hwynt yn llaw Hasael brenin Syria, ac yn llaw Benhadad mab Hasael, eu holl ddyddiau hwynt.
4. A Joahas a erfyniodd ar yr Arglwydd, a gwrandawodd yr Arglwydd arno ef; oherwydd iddo ganfod gorthrymder Israel, canys brenin Syria a'u gorthrymai hwynt.
5. (A'r Arglwydd a roddodd achubwr i Israel, fel yr aethant oddi tan law y Syriaid: a meibion Israel a drigasant yn eu pebyll fel cynt.
6. Eto ni throesant hwy oddi wrth bechodau tŷ Jeroboam, yr hwn a wnaeth i Israel bechu, eithr rhodiasant ynddynt hwy: a'r llwyn hefyd a safai yn Samaria.)
7. Ac ni adawodd efe i Joahas o'r bobl, ond deg a deugain o wŷr meirch, a deg cerbyd, a deng mil o wŷr traed: oherwydd brenin Syria a'u dinistriasai hwynt, ac a'u gwnaethai hwynt fel llwch wrth ddyrnu.
8. A'r rhan arall o hanes Joahas, a'r hyn oll a wnaeth efe, a'i gadernid, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?