Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 12:3-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Er hynny ni thynasid ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn offrymu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.

4. A Joas a ddywedodd wrth yr offeiriaid, Holl arian y pethau cysegredig a ddyger i mewn i dŷ yr Arglwydd, arian y gŵr a gyniweirio, arian gwerth eneidiau pob un, a'r holl arian a glywo neb ar ei galon eu dwyn i mewn i dŷ yr Arglwydd;

5. Cymered yr offeiriaid hynny iddynt, pawb gan ei gydnabod, a chyweiriant adwyau y tŷ, pa le bynnag y caffer adwy ynddo.

6. Ond yn y drydedd flwyddyn ar hugain i'r brenin Joas, nid adgyweiriasai yr offeiriaid agennau y tŷ.

7. Yna y brenin Joas a alwodd am Jehoiada yr offeiriad, a'r offeiriaid eraill, ac a ddywedodd wrthynt, Paham nad ydych chwi yn cyweirio agennau y tŷ? yn awr gan hynny, na dderbyniwch arian gan eich cydnabod, ond rhoddwch hwy at gyweirio adwyau y tŷ.

8. A'r offeiriaid a gydsyniasant na dderbynient arian gan y bobl, ac na chyweirient agennau y tŷ.

9. Eithr Jehoiada yr offeiriad a gymerth gist, ac a dyllodd dwll yn ei chaead, ac a'i gosododd hi o'r tu deau i'r allor, ffordd y delai un i mewn i dŷ yr Arglwydd: a'r offeiriaid, y rhai oedd yn cadw y drws, a roddent yno yr holl arian a ddygid i mewn i dŷ yr Arglwydd.

10. A phan welent fod llawer o arian yn y gist, y deuai ysgrifennydd y brenin, a'r archoffeiriad, i fyny, ac a roent mewn codau, ac a gyfrifent yr arian a gawsid yn nhŷ yr Arglwydd.

11. A hwy a roddasant yr arian wedi eu cyfrif, yn nwylo gweithwyr y gwaith, goruchwylwyr tŷ yr Arglwydd: a hwy a'i talasant i'r seiri pren, ac i'r adeiladwyr oedd yn gweithio tŷ yr Arglwydd.

12. Ac i'r seiri meini, ac i'r naddwyr cerrig, ac i brynu coed a cherrig nadd, i gyweirio adwyau tŷ yr Arglwydd, ac am yr hyn oll a aethai allan i adgyweirio y tŷ.

13. Eto ni wnaed yn nhŷ yr Arglwydd gwpanau arian, saltringau, cawgiau, utgyrn, na llestri aur, na llestri arian, o'r arian a ddygasid i mewn i dŷ yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 12