Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 12:17-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Yna Hasael brenin Syria a aeth i fyny, ac a ymladdodd yn erbyn Gath, ac a'i henillodd hi: a Hasael a osododd ei wyneb i fyned i fyny yn erbyn Jerwsalem.

18. A Joas brenin Jwda a gymerth yr holl bethau cysegredig a gysegrasai Jehosaffat, a Jehoram, ac Ahaseia, ei dadau ef, brenhinoedd Jwda, a'i gysegredig bethau ef ei hun, a'r holl aur a gafwyd yn nhrysorau tŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin, ac a'u hanfonodd at Hasael brenin Syria, ac efe a ymadawodd oddi wrth Jerwsalem.

19. A'r rhan arall o hanes Joas, a'r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda?

20. A'i weision ef a gyfodasant, ac a gydfwriadasant fradwriaeth; ac a laddasant Joas yn nhŷ Milo, wrth ddyfod i waered i Sila.

21. A Josachar mab Simeath, a Josabad mab Somer, ei weision ef, a'i trawsant ef, ac efe a fu farw; a hwy a'i claddasant ef gyda'i dadau yn ninas Dafydd: ac Amaseia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 12