Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 11:1-3 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. A phan welodd Athaleia mam Ahaseia farw o'i mab, hi a gyfododd, ac a ddifethodd yr holl had brenhinol.

2. Ond Joseba merch y brenin Joram, chwaer Ahaseia, a gymerth Joas mab Ahaseia, ac a'i lladrataodd ef o fysg meibion y brenin y rhai a laddwyd: a hwy a'i cuddiasant ef a'i famaeth yn ystafell y gwelyau, rhag Athaleia, fel na laddwyd ef.

3. Ac efe a fu gyda hi ynghudd yn nhÅ· yr Arglwydd chwe blynedd: ac Athaleia oedd yn teyrnasu ar y wlad.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 11