Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 10:20-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

20. A Jehu a ddywedodd, Cyhoeddwch gymanfa sanctaidd i Baal. A hwy a'i cyhoeddasant.

21. A Jehu a anfonodd trwy holl Israel; a holl addolwyr Baal a ddaethant, ac nid oedd un yn eisiau a'r ni ddaethai: a hwy a ddaethant i dŷ Baal, a llanwyd tŷ Baal o ben bwygilydd.

22. Ac efe a ddywedodd wrth yr hwn oedd geidwad ar y gwisgoedd, Dwg allan wisgoedd i holl addolwyr Baal. Ac efe a ddug wisgoedd iddynt.

23. A Jehu a aeth i mewn, a Jehonadab mab Rechab, i dŷ Baal, ac a ddywedodd wrth addolwyr Baal, Chwiliwch ac edrychwch, rhag bod yma gyda chwi neb o weision yr Arglwydd, ond addolwyr Baal yn unig.

24. A phan ddaethant i mewn i wneuthur aberthau, a phoethoffrymau, Jehu a osododd iddo allan bedwar ugeinwr, ac a ddywedodd, Os dianc yr un o'r dynion a ddygais i'ch dwylo chwi, einioes yr hwn y dihango ganddo fydd am ei einioes ef.

25. A phan orffennodd efe wneuthur y poethoffrwm, Jehu a ddywedodd wrth y swyddogion a'r tywysogion, Ewch i mewn, lleddwch hwynt, na ddeled neb allan. Felly hwy a'u trawsant hwy â min y cleddyf: a'r swyddogion a'r tywysogion a'u taflasant hwy allan, ac a aethant i ddinas tŷ Baal.

26. A hwy a ddygasant allan ddelwau tŷ Baal, ac a'u llosgasant hwy.

27. A hwy a ddistrywiasant ddelw Baal, ac a ddinistriasant dŷ Baal, ac a'i gwnaethant ef yn domdy hyd heddiw.

28. Felly y dileodd Jehu Baal allan o Israel.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 10