Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 1:14-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Wele, disgynnodd tân o'r nefoedd, ac a ysodd y ddau dywysog cyntaf ar ddeg a deugain, a'u deg a deugeiniau: am hynny yn awr bydded fy einioes i yn werthfawr yn dy olwg di.

15. Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Eleias, Dos i waered gydag ef, nac ofna ef. Ac efe a gyfododd, ac a aeth i waered gydag ef at y brenin.

16. Ac efe a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywedodd yr Arglwydd, Oherwydd i ti anfon cenhadau i ymofyn â Baal‐sebub duw Ecron, (ai am nad oes Duw yn Israel i ymofyn â'i air?) am hynny ni ddisgynni o'r gwely y dringaist arno, eithr gan farw y byddi farw.

17. Felly efe a fu farw, yn ôl gair yr Arglwydd yr hwn a lefarasai Eleias: a Jehoram a deyrnasodd yn ei le ef, yn yr ail flwyddyn i Jehoram mab Jehosaffat brenin Jwda; am nad oedd mab iddo ef.

18. A'r rhan arall o weithredoedd Ahaseia y rhai a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel?

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 1