Hen Destament

Testament Newydd

2 Brenhinoedd 1:10-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrth dywysog y deg a deugain, Os gŵr Duw ydwyf fi, disgynned tân o'r nefoedd, ac ysed di a'th ddeg a deugain. A thân a ddisgynnodd o'r nefoedd, ac a'i hysodd ef a'i ddeg a deugain.

11. A'r brenin a anfonodd eilwaith ato ef dywysog arall ar ddeg a deugain, â'i ddeg a deugain: ac efe a atebodd ac a ddywedodd, O ŵr Duw, fel hyn y dywedodd y brenin, Tyred i waered yn ebrwydd.

12. Ac Eleias a atebodd ac a ddywedodd wrthynt hwy, Os gŵr Duw ydwyf fi, disgynned tân o'r nefoedd, ac ysed di a'th ddeg a deugain. A thân Duw a ddisgynnodd o'r nefoedd, ac a'i hysodd ef a'i ddeg a deugain.

13. A'r brenin a anfonodd eto y trydydd tywysog ar ddeg a deugain, â'i ddeg a deugain: a'r trydydd tywysog ar ddeg a deugain a aeth i fyny, ac a ddaeth ac a ymgrymodd ar ei liniau gerbron Eleias, ac a ymbiliodd ag ef, ac a lefarodd wrtho, O ŵr Duw, atolwg, bydded fy einioes i, ac einioes dy ddeg gwas a deugain hyn, yn werthfawr yn dy olwg di.

14. Wele, disgynnodd tân o'r nefoedd, ac a ysodd y ddau dywysog cyntaf ar ddeg a deugain, a'u deg a deugeiniau: am hynny yn awr bydded fy einioes i yn werthfawr yn dy olwg di.

15. Ac angel yr Arglwydd a lefarodd wrth Eleias, Dos i waered gydag ef, nac ofna ef. Ac efe a gyfododd, ac a aeth i waered gydag ef at y brenin.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Brenhinoedd 1