Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 9:18-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Yna Saul a nesaodd at Samuel yng nghanol y porth, ac a ddywedodd, Mynega i mi, atolwg, pa le yma y mae tŷ y gweledydd.

19. A Samuel a atebodd Saul, ac a ddywedodd, Myfi yw y gweledydd: dos i fyny o'm blaen i'r uchelfa; canys bwytewch gyda myfi heddiw: a mi a'th ollyngaf y bore, ac a fynegaf i ti yr hyn oll y sydd yn dy galon.

20. Ac am yr asynnod a gyfrgollasant er ys tridiau, na ofala amdanynt; canys cafwyd hwynt. Ac i bwy y mae holl bethau dymunol Israel? onid i ti, ac i holl dŷ dy dad?

21. A Saul a atebodd ac a ddywedodd, Onid mab Jemini ydwyf fi, o'r lleiaf o lwythau Israel? a'm teulu sydd leiaf o holl deuluoedd llwyth Benjamin? a phaham y dywedi wrthyf y modd hyn?

22. A Samuel a gymerth Saul a'i lanc, ac a'u dug hwynt i'r ystafell, ac a roddodd iddynt le o flaen y gwahoddedigion; a hwy oeddynt ynghylch dengwr ar hugain.

23. A Samuel a ddywedodd wrth y cog, Moes y rhan a roddais atat ti, am yr hon y dywedais wrthyt, Cadw hon gyda thi.

24. A'r cog a gyfododd yr ysgwyddog, a'r hyn oedd arni, ac a'i gosododd gerbron Saul. A Samuel a ddywedodd, Wele yr hyn a adawyd; gosod ger dy fron, a bwyta: canys hyd y pryd hwn y cadwyd ef i ti, er pan ddywedais, Y bobl a wahoddais i. A bwytaodd Saul gyda Samuel y dydd hwnnw.

25. A phan ddisgynasant o'r uchelfa i'r ddinas, Samuel a ymddiddanodd â Saul ar ben y tŷ.

26. A hwy a gyfodasant yn fore: ac ynghylch codiad y wawr, galwodd Samuel ar Saul i ben y tŷ, gan ddywedyd, Cyfod, fel y'th hebryngwyf ymaith. A Saul a gyfododd, ac efe a Samuel a aethant ill dau allan.

27. Ac fel yr oeddynt yn myned i waered i gwr eithaf y ddinas, Samuel a ddywedodd wrth Saul, Dywed wrth y llanc am fyned o'n blaen ni; (felly yr aeth efe;) ond saf di yr awr hon, a mynegaf i ti air Duw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 9