20. Fel y byddom ninnau hefyd fel yr holl genhedloedd; a'n brenin a'n barna ni, efe a â allan hefyd o'n blaen ni, ac efe a ymladd ein rhyfeloedd ni.
21. A gwrandawodd Samuel holl eiriau y bobl, ac a'u hadroddodd hwynt lle y clybu yr Arglwydd.
22. A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel, Gwrando ar eu llais hwynt, a gosod frenin arnynt. A dywedodd Samuel wrth wŷr Israel, Ewch bob un i'w ddinas ei hun.