Hen Destament

Testament Newydd

1 Samuel 8:1-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac wedi heneiddio Samuel, efe a osododd ei feibion yn farnwyr ar Israel.

2. Ac enw ei fab cyntaf-anedig ef oedd Joel; ac enw yr ail, Abeia: y rhai hyn oedd farnwyr yn Beerseba.

3. A'i feibion ni rodiasant yn ei ffyrdd ef, eithr troesant ar ôl cybydd-dra, a chymerasant obrwy, a gwyrasant farn.

4. Yna holl henuriaid Israel a ymgasglasant, ac a ddaethant at Samuel i Rama,

5. Ac a ddywedasant wrtho ef, Wele, ti a heneiddiaist, a'th feibion ni rodiant yn dy ffyrdd di: yn awr gosod arnom ni frenin i'n barnu, megis yr holl genhedloedd.

6. A'r ymadrodd fu ddrwg gan Samuel, pan ddywedasant, Dyro i ni frenin i'n barnu: a Samuel a weddïodd ar yr Arglwydd.

7. A dywedodd yr Arglwydd wrth Samuel, Gwrando ar lais y bobl yn yr hyn oll a ddywedant wrthyt: canys nid ti y maent yn ei wrthod, ond myfi a wrthodasant, rhag i mi deyrnasu arnynt.

8. Yn ôl yr holl weithredoedd a wnaethant, o'r dydd y dygais hwynt o'r Aifft hyd y dydd hwn, ac fel y gwrthodasant fi, ac y gwasanaethasant dduwiau dieithr; felly y gwnânt hwy hefyd i ti.

9. Yn awr gan hynny gwrando ar eu llais hwynt: eto gan dystiolaethu tystiolaetha iddynt, a dangos iddynt ddull y brenin a deyrnasa arnynt.

10. A Samuel a fynegodd holl eiriau yr Arglwydd wrth y bobl, y rhai oedd yn ceisio brenin ganddo.

11. Ac efe a ddywedodd, Dyma ddull y brenin a deyrnasa arnoch chwi: Efe a gymer eich meibion, ac a'u gesyd iddo yn ei gerbydau, ac yn wŷr meirch iddo, ac i redeg o flaen ei gerbydau ef:

12. Ac a'u gesyd hwynt iddo yn dywysogion miloedd, ac yn dywysogion deg a deugain, ac i aredig ei âr, ac i fedi ei gynhaeaf, ac i wneuthur arfau ei ryfel, a pheiriannau ei gerbydau.

13. A'ch merched a gymer efe yn apothecaresau, yn gogesau hefyd, ac yn bobyddesau.

14. Ac efe a gymer eich meysydd, a'ch gwinllannoedd, a'ch olewlannoedd gorau, ac a'u dyry i'w weision.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Samuel 8