11. Am hynny yr anfonasant, ac y casglasant holl arglwyddi'r Philistiaid: ac a ddywedasant, Danfonwch ymaith arch Duw Israel, a dychweler hi adref; fel na laddo hi ni a'n pobl: canys dinistr angheuol oedd trwy'r holl ddinas; trom iawn oedd llaw Duw yno.
12. A'r gwŷr, y rhai ni buant feirw, a drawyd â chlwyf y marchogion: a gwaedd y ddinas a ddyrchafodd i'r nefoedd.