1. Ar Philistiaid a gymerasant arch Duw, ac a'i dygasant hi o Ebeneser i Asdod.
2. A'r Philistiaid a gymerasant arch Duw, ac a'i dygasant i mewn i dŷ Dagon, ac a'i gosodasant yn ymyl Dagon.
3. A'r Asdodiaid a gyfodasant yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr Arglwydd. A hwy a gymerasant Dagon, ac a'i gosodasant eilwaith yn ei le.
4. Codasant hefyd yn fore drannoeth; ac wele Dagon wedi syrthio i lawr ar ei wyneb, gerbron arch yr Arglwydd: a phen Dagon, a dwy gledr ei ddwylo, oedd wedi torri ar y trothwy; corff Dagon yn unig a adawyd iddo ef.
5. Am hynny ni sathr offeiriaid Dagon, na neb a ddelo i mewn i dŷ Dagon, ar drothwy Dagon yn Asdod, hyd y dydd hwn.
6. A thrwm fu llaw yr Arglwydd ar yr Asdodiaid; ac efe a'u distrywiodd hwynt, ac a'u trawodd hwynt, sef Asdod a'i therfynau, â chlwyf y marchogion.